Yr adroddiad cyfrinachol nad yw Llywodraeth Lafur Cymru eisiau i chi ei weld

Image of confidential report

Ail ymgais i ddatgelu’r ymchwiliad cudd ynghylch hunanladdiad gwleidydd

Mae’r Aelod Cynulliad annibynnol, Neil McEvoy wedi lansio ymgais o’r newydd i orfodi Llywodraeth Cymru i gyhoeddi adroddiad y mae’n ceisio gadw ynghudd.

“Mae’n bryd i Lywodraeth Cymru fod yn onest a rhyddhau’r ymchwiliad i’r modd y triniwyd diswyddo Carl Sargeant” meddai AC Canol De Cymru.

Yr oedd Mr Sargeant yn Weinidog yn Llywodraeth Lafur Cymru cyn cael ei ddiswyddo yn 2017 dros honiadau o ymddygiad amhriodol tuag at fenywod. Diswyddodd y Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, ef o’i lywodraeth a’i atal o’r blaid Lafur. Cymerodd Mr Sargeant ei fywyd ei hun rai dyddiau’n ddiweddarach.

Adeg diswyddo Mr Sargeant, ni chynhaliwyd unrhyw ymchwiliad i’r honiadau; ni chawsant eu profi, rhoi adroddiad amdanynt i’r heddlu, na hyd yn oed gael eu hysgrifennu.

O ganlyniad i’r achos dadleuol, cyhoeddodd y cyn-Brif Weinidog ymchwiliad cyhoeddus i’r sgandal a chyhoeddodd hefyd ei gynlluniau i ymddiswyddo. Cwblhawyd yr ymchwiliad dros flwyddyn yn ôl, ond mae’r Llywodraeth Lafur wedi ei gadw’n ddirgel ac wedi gwrthod i Aelodau Cynulliad eraill a’r cyhoedd ei weld.

Rhyddhewch yr adroddiad

Yn 2018 gwnaeth Neil McEvoy AC ei ymgais gyntaf i orfodi cyhoeddi’r adroddiad, gan gyflwyno cynnig yn gofyn i’r Cynulliad Cenedlaethol ddefnyddio pŵer yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 nad oedd llawer yn gwybod amdano a nas defnyddiwyd erioed o’r blaen.

Mae Adran 37 y Ddeddf yn caniatáu i’r Cynulliad Cenedlaethol orfodi cyhoeddi unrhyw ddogfen a ddelir gan unigolyn, gan gynnwys yr ymchwiliad cudd. Ni wnaeth y Grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad Cenedlaethol aros i gynnig Mr McEvoy gael ei drafod; yn hytrach, fe wnaethant ruthro cynnig oedd yr un fath yn union trwy’r Cynulliad, a arweiniodd at i Lywodraeth Lafur Cymru gymryd y cam anhygoel o fygwth camau cyfreithiol i geisio atal y bleidlais. Aeth y bleidlais rhagddi, ond collwyd y cynnig wedi i Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol bleidleisio yn ei erbyn, er mwyn cadw’r adroddiad ynghudd.

Ymddygiad anghyfreithlon

Ond flwyddyn wedi i’r bleidlais gael ei cholli, dyfarnodd yr Uchel Lys yn Llundain fod y cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones, wedi gweithredu’n anghyfreithlon yn y ffordd y gwnaeth drefniadau ar gyfer yr ymchwiliad i farwolaeth Carl Sargeant. Arweiniodd y dyfarniad hwnnw at alwadau gan yr AC Llafur Alun Davies ar i’r Llywodraeth ryddhau’r ymchwiliad cudd i ollwng yr hanes, sy’n golygu y gall fod yn awr fwyafrif o Aelodau Cynulliad fyddai’n pleidleisio dros gyhoeddi’r ymchwiliad.

Cyfle o’r newydd i gyhoeddi

Mae Mr McEvoy AC yn awr wedi anfon Cynnig Heb Ddyddiad Trafod newydd at Bwyllgor Busnes y Cynulliad yn galw am ddefnyddio Adran 37 Deddf Llywodraeth Cymru er mwyn gorfodi cyhoeddi. Ffurfir y Pwyllgor Busnes o aelod o bob un o grwpiau gwleidyddol y Cynulliad, a hwy sy’n penderfynu pa bleidleisiau fydd yn mynd gerbron. Wedi trafodaeth gychwynnol, cytunodd y Pwyllgor Busnes ddychwelyd at y mater, gyda’r bwriad o fynd â’r cynnig gerbron, wedi’r Pasg.

“Mae’n bryd rhyddhau’r adroddiad,” meddai Mr McEvoy y tro cyntaf wedi i’r Pwyllgor Busnes drafod ei gynnig. “Daeth y Cynulliad Cenedlaethol dan y Prif Weinidog diwethaf yn lle llawn cyfrinachedd a sgandal. Mae pethau wedi mynd cynddrwg fod yr Uchel Lys yn Llundain wedi dyfarnu fod cyn-Brif Weinidog Cymru wedi ymddwyn yn groes i’r gyfraith. Mae’n hynod bwysig fod y Prif Weinidog newydd, Mark Drakeford, yn ymrwymo’n llwyr i dryloywder llawn a bod yn hollol agored. Ond oni fydd yn rhyddhau’r adroddiad, yna gall y Cynulliad Cenedlaethol gymryd materion i’w dwylo eu hunain trwy bleidleisio dros fy nghynnig i i orfodi’r Llywodraeth i ryddhau’r ymchwiliad cudd.”

A oedd lobïwyr yn rhan o’r peth?

Mae’r dadleuon ynghylch cyhoeddi’r adroddiad yn troi ynghylch a oedd gan gwmni lobïo corfforaethol wybodaeth ymlaen llaw am ddiswyddo Mr Sargeant cyn iddo ef ei hun gael gwybod. Mae lobïwyr corfforaethol yn cael arian gan eu cleientiaid i roi gwybodaeth iddynt ac i geisio dylanwadu ar lywodraethau i basio cyfreithiau fydd o fudd iddynt hwy. Mae Mr McEvoy hefyd wedi gwneud sawl ymgais i gael lobïwyr wedi eu rheoleiddio yng Nghymru, fel y maent yn Lloegr a’r Alban, ond hyd yma, gwrthod wnaeth y llywodraeth Lafur.

Honnodd cyn-arweinydd y Ceidwadwyr under yng Nghymru, Andrew RT Davies, dan fraint seneddol fod yr ymchwiliad i ollwng yr hanes wedi clywed tystiolaeth fod y cwmni lobïo Deryn yn gwybod am y diswyddo ac iddynt roi gwybod i newyddiadurwyr, cyn i’r diswyddo ddigwydd mewn gwirionedd.

Ond heb gyhoeddi’r adroddiad dirgel, mae’n amhosib gwybod ai dyna ddigwyddodd ai peidio.

Dywedodd Mr McEvoy fod “angen i Lywodraeth Cymru ddod allan o’r cysgodion. Rydym i fod yn adeiladu democratiaeth fodern ac agored yng Nghymru. Mae pobl yn colli ffydd mewn gwleidyddiaeth, a does dim syndod pan fo Llafur yn gweithredu fel hyn.